Mae penaethiaid Iddewig yn galw o’r newydd am ddiarddel aelod o Blaid Cymru y maen nhw’n ei chyhuddo o rannu deunydd gwrth-Semitaidd ar y we.
Mewn llythyr at Alun Ffred Jones, cadeirydd Plaid Cymru, mae Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain a Chyngor Cynrychiolwyr Iddewig De Cymru wedi mynegi “pryder difrifol” nad yw’r blaid wedi cymryd camau yn erbyn Sahar al-Faifi, sy’n ymgeisio i fod ar restr Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru.
Mewn neges, a gafodd ei dileu’n ddiweddarach, awgrymodd Sahar al-Faifi fod Israel wedi hyfforddi’r plismyn oedd yn gyfrifol am lofruddiaeth George Floyd ym Minnesota.
‘Goddef’ gwrth-Semitiaeth
“Yn anffodus, mae neges wedi cael ei hanfon at Iddewon a gwrth-Semitiaid fod gwrth-Semitiaeth yn cael ei goddef ym Mhlaid Cymru,” meddai’r llythyr.
Mae’r llythyr yn dweud bod Sahar al-Faifi wedi bod yn wrth-Semitaidd “ers blynyddoedd”, ar ôl iddi wneud sylwadau am ddamcaniaethau cynllwyn Rothschild a beio’r Iddewon am ymosodiad London Bridge yn 2017.
Yn ôl Sahar al-Faifi, roedd ei sylwadau’n cysylltu llofruddiaeth George Floyd ag Israel yn seiliedig ar adroddiad Amnest Rhyngwladol yn 2016 oedd yn crybwyll hyfforddiant yr heddlu. Dywed ei bod wedi dileu’r neges ar ôl eglurhad.
Cafodd ei diarddel o Blaid Cymru fis Tachwedd y llynedd ar ôl i hen negeseuon o’i chyfryngau cymdeithasol ailymddangos, ac roedd hi’n cyfaddef eu bod nhw’n wrth-Semitaidd ei natur. Dychwelodd hi i Blaid Cymru’n ddiweddarach.
Mae Sahar al-Faifi ar hyn o bryd wrthi’n ymgyrchu am le ar restr Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
Ymateb Plaid Cymru
Wrth ymateb i sylwadau’r Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:
“Mae’r broses ddisgyblu wedi gorffen ac nid oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn yr achos hwn. Mae Plaid Cymru yn parchu barn Bwrdd y Dirprwyon a byddwn yn parhau i gael trafodaethau adeiladol. Ni wnaiff y Blaid oddef unrhyw wrth-Semitiaeth nac ychwaith unrhyw fath o ragfarn a gwahaniaethu.”