Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, i sicrhau dyfodol ysgol bentref Gymraeg ym Mhowys.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Powys i baratoi achos dros ad-drefnu addysg a allai arwain at gau Ysgol Pennant.

Mae’r Gymdeithas yn dweud y bydd y Cyngor Sir yn torri’r Côd Trefniadaeth Ysgolion os na fyddan nhw’n diwygio eu cynlluniau, ac maen nhw am weld Kirsty Williams yn ymyrryd ar unwaith.

“Mae’r Côd statudol diwygiedig (2018) yn mynnu fod Awdurdod Lleol yn cychwyn ymchwiliad gyda rhagdyb o blaid cynnal ysgolion gwledig,” meddai Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas.

“Mae Ysgol Pennant ar restr swyddogol ysgolion gwledig y llywodraeth, ac eto mae Cyngor Powys am gychwyn ymchwilio i gynnig sydd o’r cychwyn am gau Ysgol Pennant a symud y plant i dderbyn addysg gyfrwng Cymraeg yn Llanrhaeadr ym Mochnant.”

Cynllun “cwbl wallus”

“Mae’r cynllun yn gwbl wallus gan ei fod yn torri’r côd statudol, ac yn cael effaith botensial o wael ar addysg Gymraeg gan fod yr ysgol ar hyn o bryd yn denu plant o bentrefi eraill fel Llanwddyn a gallai rhieni – o golli Ysgol Pennant – symud eu plant yn hytrach at ffrwd neu ysgol Saesneg wahanol er mwyn hwylustod personol o ran gwaith neu gysylltiad teuluol,” meddai wedyn.

“Dylai’r Cyngor gynnig opsiwn gwahanol yn achos Penybont-fawr fel ffederasiwn rhwng Ysgol Pennant ac Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant gan anrhydeddu’r ymrwymiadau a roddwyd i’r ddwy gymuned.”