Mae golwg360 yn deall bod “llawr cyfan” o fyfyrwyr yn Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn e-bost dros y penwythnos yn datgan bod rhaid iddyn nhw hunanynysu am eu bod nhw wedi bod mewn cyswllt gyda pherson sydd wedi profi’n bositif i’r feirws.
Yn ôl myfyrwraig o’r enw Manon, sydd bellach yn hunanynysu, mae hi’n un o’r rhai oedd wedi derbyn yr e-bost fore Sul (Hydref 4) yn gofyn iddyn nhw hunanynysu am gyfnod o ddeg diwrnod.
Er bod y Brifysgol wedi cadarnhau bod Covid-19 yn cylchredeg o fewn eu cymuned yng Ngheredigion, dydyn nhw ddim wedi cadarnhau sawl achos sydd o fewn y Brifysgol, wrth ddatgan mai eu blaenoriaeth yw “gwarchod preifatrwydd a lles ehangach ein myfyrwyr”.
“Mae’r brifysgol yn gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion ac eraill i weithredu unrhyw gamau a adnabyddir er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddiad yn lleol,” meddai llefarydd.
“Mae Covid-19 yn cylchredeg yn ein cymuned yma yng Ngheredigion, a dim ond drwy weithio gyda’n gilydd er budd pawb y bydd modd atal ei effeithiau niweidiol.”
Profiadau’r myfyrwyr
“Dwi’n meddwl bod y Brifysgol wedi delio hefo’r sefyllfa yn eithaf da,” meddai Manon wrth golwg360.
“Maen nhw wedi bod yn cadw mewn cysylltiad hefo ni ac wedi trefnu bod bwyd a diod yn cael eu danfon aton ni.
“Dwi’n teimlo’n iawn ar hyn o bryd, ond mi fysa’n braf cael mynd allan am ychydig o awyr iach.”
Mae’r Brifysgol yn cydnabod ei bod hi’n gyfnod “anodd a digynsail” i lawer o fyfyrwyr yn Aberystwyth, gan ddatgan bod “ystod o wasanaethau cymorth ar gael i’w cynorthwyo”.
“Ein blaenoriaeth yw iechyd a lles ein myfyrwyr, ein staff a’r gymuned ehangach yma yn Aberystwyth,” meddai’r llefarydd wedyn.
“Byddwn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa yma yn lleol a gweithredu yn unol â hynny mewn cydweithrediad agos gydag asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.”