Mae arweinydd Cyngor Conwy yn galw am newid cyfyngiadau coronafeirws lleol yr ardal.
Mae Sam Rowlands, yr arweinydd Ceidwadol, wedi ysgrifennu at y prif weinidog Mark Drakeford yn gofyn am gael dileu cyfyngiadau sy’n rhwystro pobol rhag teithio i mewn ac allan o’r sir heb reswm rhesymol.
Dywed fod y cyfyngiadau’n cael effaith drychinebus ar yr economi leol.
“Mae hi’n glir nad oes unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu bod symudiadau pobol yng ngogledd Cymru yn ffactor am y twf mewn achosion o Covid-19,” meddai.
“Felly, dyw’r cyfyngiadau ddim wedi eu seilio ar unrhyw dystiolaeth ac yn ymddangos yn hollol anghymesur â realiti’r sefyllfa.
“Yn ogystal â’r effaith economaidd sylweddol a’r goblygiadau iechyd a lles, dydy’r cyfyngiadau ddim yn ystyried pa mor angenrheidiol yw teithio dros ffiniau yng ngogledd Cymru.”
“Dylai cyfyngiadau lleol fod yn lleol” – Darren Millar
Mae Darren Millar, llefarydd Adferiad Covid-19 y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb i’r llythyr drwy ddweud y “dylai cyfyngiadau lleol fod yn lleol”.
“Dylai cyfyngiadau lleol fod yn lleol,” meddai.
“Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis gosod cyfyngiadau ar draws rhannau eang o ogledd Cymru heb gyhoeddi tystiolaeth fanwl i gefnogi cam o’r fath.
“O ystyried yr aflonyddwch a chaledi mae cyfyngiadau coronafeirws lleol yn ei achosi i bobol yng ngogledd Cymru, mae angen i Weinidogion Cymru gyfiawnhau eu gweithredoedd a chyhoeddi data o gymuned i gymuned er mwyn ein galluogi i graffu ar eu mesurau.”