Mae Mike Russell, Ysgrifennydd Cyfansoddiad yr Alban, wedi galw ar Aelodau o Senedd yr Alban i “amddiffyn datganoli” drwy wrthod Bil y Farchnad Fewnol.
Daw hyn ar ôl i weinidogion Llywodraeth yr Alban honni drachefn bod y ddeddfwriaeth yn cynrychioli ymdrech gan Lywodraeth San Steffan i “gipio pwerau”.
Mae’r honiad hwn wedi cael ei wrthod gan Alister Jack, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, sy’n mynnu bod y ddeddfwriaeth yn “parchu a chryfhau datganoli”.
Ond mae’n debyg y bydd Aelodau o Senedd yr Alban yn pleidleisio yn erbyn rhoi caniatâd deddfwriaethol, er na fydd hynny yn atal Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhag bwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth.
“Bygythiad digynsail” – Mike Russell
Mae Bil y Farchnad Fewnol yn cynrychioli “bygythiad digynsail” i bwerau Senedd yr Alban, yn ôl Mike Russell.
“Rwy’n galw ar aelodau ar draws y siambr i godi ac amddiffyn datganoli,” meddai.
“Yn syml, mae Bil y Farchnad Fewnol yn fygythiad digynsail i bwerau Senedd yr Alban.
“All Llywodraeth yr Alban ddim rhoi sêl bendith i ddeddfwriaeth sy’n tanseilio datganoli ac yn torri cyfraith ryngwladol, ac rydym yn annog aelodau i’w wrthod.”
“Parchu a chryfhau datganoli” – Alister Jack
Fodd bynnag, mae Alister Jack wedi annog Llywodraeth yr Alban i gefnogi’r ddeddfwriaeth.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd camau i warchod swyddi, busnesau a chwsmeriaid, gan sicrhau bod masnachu’n parhau’n ddi-dor rhwng rhannau gwahanol o’r Deyrnas Unedig pan fydd cyfnod trosglwyddo (Brexit) yn dod i ben,” meddai.
“Mae ein cynigion yn parchu a chryfhau datganoli oherwydd, ar ddiwedd y flwyddyn, bydd nifer helaeth o’r pwerau sy’n dychwelyd o Frwsel yn mynd yn syth i Holyrood.
“Rwy’n annog Llywodraeth yr Alban i gefnogi’r ddeddfwriaeth allweddol hon.”