Mae Plaid Cymru’n galw am gyfarfod brys gydag asiantaethau sy’n gyfrifol am afon Aber yn Abergwyngregyn yn dilyn yr ail achos o lifogydd yno o fewn deufis.

Yn ôl Dafydd Meurig, cynghorydd yr ardal, mae’n “hen bryd” i’r asiantaethau ddod ynghyd “i liniaru’r problemau”.

Fis Awst, cafodd dau gartref ac un busnes eu difrodi mewn llifogydd ar ôl i’r afon orlifo ond roedd y digwyddiad yn cael ei alw’n eithafol unigryw.

Bellach, mae’n galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru, Network Rail, Dŵr Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Cymuned Abergwyngregyn i ddod ynghyd ar frys i drafod y mater.

‘Ddim yn brofiad braf i neb’

“Dyw poeni am law mawr, ei effaith a’i ddifrod ddim yn brofiad braf i neb, mae’n amser i Gyfoeth Naturiol Cymru eistedd o amgylch y bwrdd i drafod y problemau gyda Network Rail, Dŵr Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Cymuned Abergwyngregyn a rhoi cynllun brys ar waith,” meddai Dafydd Meurig.

“O fod yng nghanol y trafferthion gyda’r trigolion lleol dros y dyddiau diwethaf, mae’n amlwg bod angen ymchwilio ymhellach a dod o hyd i ddatrysiad.

“Mae tri chartref wedi eu gorlifo y tro hwn, a bydd angen asesu’r difrod.

“Yn ffodus, roedd y tai yn parhau yn wag ers y llifogydd ddiwedd yr haf.

“Ond bydd y gwaith o ail ddechrau’r clirio angen ei ail gychwyn unwaith eto. Mae’n dorcalonnus!

“Mae’r gwaith o glirio’r llanast sy’n cael ei gario gyda dŵr ar hyd y lonydd, y caeau, y gwrychoedd a’r Afon, hefyd angen sylw brys.

“Rydym yn ddiolchgar i staff Cyngor Gwynedd am eu cymorth ac i’r bobl leol am eu cefnogaeth. Ond mae’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru symud yn fuan, i asesu’r problemau, wrth i ni brysuro at fisoedd gwlyb y gaeaf.”

‘Mae ‘nghalon i’n gwaedu’

Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd sy’n cynrychioli’r ardal, yn cefnogi’r alwad am gyfarfod brys.

“Dwi’n ddiolchgar i’r Cynghorydd dros yr ardal a swyddogion y Cyngor am eu gwaith yn Abergwyngregyn dros y dyddiau diwethaf,” meddai.

“Mae nghalon i’n gwaedu dros y trigolion sy’n gweld llifogydd yn eu heiddo am yr ail waith mewn dau fis – mae’n gwbl annerbyniol.

“Byddaf yn cysylltu â’r Gweinidog sydd â’r cyfrifoldeb dros yr amgylchedd i bwyso arni am drafodaeth frys ar y mater hwn.

“Dwi’n uno yn yr alwad gan y Cynghorydd Dafydd Meurig i wahodd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r asiantaethau eraill at y bwrdd i drafod datrysiad buan dros drigolion yr ardal.”