Mae Janet Finch-Saunders, llefarydd Lles Anfeiliaid y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am gyflymu’r broses o gyflwyno Deddf Lucy er mwyn atal hawl trydydd parti i werthu cŵn a chathod bach.

Cafodd y ddeddf ei henwi ar ôl Cavalier King Charles Spaniel a gafodd ei hachub o fferm cŵn bach yng Nghymru.

Daeth deddfwriaeth newydd i rym yn Lloegr ym mis Ebrill, ond fydd hi ddim yn dod i rym yng Nghymru am rai misoedd eto fel mae’r sefyllfa ar hyn o bryd.

Wrth alw am gyflymu’r broses, dywed Janet Finch-Saunders fod Llywodraeth Cymru’n “llusgo’u traed”.

“Mae’r rheoliadau presennol yng Nghymru yn aneffeithiol, ac fe fu diffyg gweithredu difrifol yma, ac felly dw i’n galw ar y llywodraeth i gyflymu’r broses o gyflwyno’r ddeddfwriaeth i roi terfyn ar ffermio cŵn bach yng Nghymru,” meddai.

“Wrth i bob dydd fynd heibio heb fod y ddeddfwriaeth i gau ffermydd cŵn a chathod bach wedi’i chyflwyno, mae yna ddiwrnod arall lle mae anfeiliaid yn cael eu gadael i ddioddef.

“Mae hyn yn annerbyniol yn y Gymru gyfoes.”