Mae disgwyl i Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, gyhoeddi cyfyngiadau coronafeirws newydd heddiw (dydd Mercher, Hydref 7).
Bydd hi’n egluro manylion y cyfyngiadau mewn datganiad i Senedd yr Alban am tua 2.50yp.
Ond mae hi wedi dweud na fydd y mesurau newydd yn golygu cloi mawr arall yn yr Alban, fel yr un ym mis Mawrth.
Bydd y cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod o’r Cabinet yn y bore, lle bydd manylion y cyfyngiadau newydd yn cael eu trafod.
Y cyfyngiadau posib
Fodd bynnag, mae cau ysgolion wedi cael ei ddiystyru, yn ogystal â chyfyngiadau teithio ledled yr Alban.
Fydd dim angen i bobol aros yn eu tai am ran fwyaf o’r dydd fel ym mis Mawrth, er y gallai rhai mesurau ychwanegol gael eu cyflwyno mewn ardaloedd lle mae’r feirws ar ei waethaf.
Wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol y coronafeirws, dywedodd Nicola Sturgeon ei bod hi’n derbyn cyngor iechyd cyhoeddus “cryf iawn” fod angen mesurau newydd er mwyn ymateb i’r twf mewn achosion.
Mae cyfartaledd achosion dyddiol y wlad wedi codi o 285 bythefnos yn ôl, pan gafodd y gwaharddiad ar ymweld â thai ei gyflwyno, i 729 erbyn hyn.
“Dyw’r sefyllfa ddim allan o’n rheolaeth, ond mae’n peri gofid,” meddai Nicola Sturgeon.