Mae Joe Biden yn dweud na ddylai’r dadleuon yn ras arlywyddol yr Unol Daleithiau gael eu cynnal tra bod yr Arlywydd Donald Trump wedi’i heintio â’r coronafeirws.

Dywed yr ymgeisydd Democrataidd ei fod yn “edrych ymlaen at allu dadlau” â’r Arlywydd Gweriniaethol, ond y bydd “rhaid dilyn canllawiau llym iawn” er mwyn gwneud hynny’n ddiogel.

Dychwelodd Trump i’r Tŷ Gwyn ddydd Llun (Hydref 5) ar ôl tridiau o driniaeth yn yr ysbyty ar gyfer Covid-19.

Mae disgwyl i’r ddadl nesaf gael ei chynnal ddydd Iau nesaf (Hydref 15), a’r un ganlynol wythnos yn ddiweddarach ar Hydref 22.

Mae Joe Biden wedi cael prawf negyddol yr wythnos hon.

Dadl y dirprwyon

Yn y cyfamser, fe fydd y Dirprwy Arlywydd Mike Pence yn mynd ben-ben â Kamala Harris, ymgeisydd y Democratiaid ar gyfer yr is-arlywyddiaeth.

Bydd y ddadl yn cael ei chynnal yn Salt Lake City.

Bydd cyfle i Kamala Harris amlinellu ei barn y byddai Joe Biden yn dadsefydlogi’r Unol Daleithiau, yn enwedig wrth fynd i’r afael â’r coronafeirws a materion yn ymwneud â hawliau hil.

Bydd hi’n pwysleisio’i chefndir ym myd y gyfraith, a hithau wedi bod yn erlynydd.

Ond yn y pen draw, bydd y ddau yn cael eu barnu ar sail eu gallu i gamu i swydd yr arlywydd dros dro ac ar fyr rybudd pe bai angen.

Tra bo Mike Pence yn gyn-lywodraethwr 61 oed o Indiana, yn gyn-gyflwynydd radio a Christion efengylaidd, seneddwraig groenddu yw Kamala Harris, yn ferch i ddyn o Jamaica a dynes o India, a hi yw’r ddynes groenddu gyntaf i fod yn ymgeisydd ar gyfer y swydd.