Mae wedi dod i’r amlwg bod Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi cymryd tri diwrnod i ddweud wrth uwch-swyddogion y Llywodraeth bod Alex Salmon yn debygol gymryd camau cyfreithiol dros y ffordd y cafodd cyhuddiadau aflonyddu rhywiol yn ei erbyn eu delio.
Cafwyd cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn ddieuog o geisio treisio ac ymosod yn rhywiol yn dilyn achos yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin.
Dywedodd Nicola Sturgeon bod “tôn a chynnwys” neges dderbyniodd hi gan ei rhagflaenydd ar Fehefin 3 2018 wedi arwain iddi “ddod i’r casgliad bod camau cyfreithiol gan Alex Salmond yn erbyn Llywodraeth yr Alban yn bosibilrwydd difrifol.”
Ychwanegodd ei bod hi wedi penderfynu dweud wrth yr Ysgrifennydd Parhaol Leslie Evans am y sefyllfa, gan ysgrifennu ati ar Fehefin 6.
Cafodd hyn ei ddatgelu yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i Aelodau o Senedd yr Alban sy’n archwilio’r ffordd aeth Llywodraeth yr Alban ati i ddelio â’r cyhuddiadau yn erbyn Alex Salmond.
Derbyniodd Alex Salmond £500,000 ar ôl i’r Uchel Lys yng Nghaeredin ddyfarnu bod yr ymchwiliad yn “anghyfreithlon.”
Gwadu cynllwynio gyda Alex Salmond na chynllwynio yn ei erbyn
Pan wnaeth y pâr gyfarfod yng nghartref Nicola Sturgeon ar Ebrill 2 2018, dywedodd Alex Salmond wrthi am yr ymchwiliad yn ei erbyn, gan ddangos copi o lythyr roedd wedi ei dderbyn ynglyn a’r ymchwiliad.
“Roeddwn mewn sioc ac wedi cynhyrfu wrth ddeall realiti beth ddarllenais,” meddai Nicola Sturgeon.
Mae hi hefyd yn gwadu cynllwynio gyda Alex Salmond na chynllwynio yn ei erbyn.
“Dw i’n gwrthod y ddau awgrym hynny yn y modd cryfaf bosib,” meddai.
“Mae’n ymddengos imi fod yr hyn mae rhai yn ceisio ei gyflwyno fel ‘cynllwyn’ mewn difrif yn wrthodiad ar fy rhan i ‘gydgynllwynio’ neu ‘orchuddio’r gwir’.
“Ceisiais wneud fy ngorau mewn sefyllfa bersonol, wleidyddol a phroffesiynol anodd tu hwnt.”
Nicola Sturgeon heb weld Alex Salmond ers Gorffennaf 14, 2018
Dywedodd Nicola Sturgeon nad oedd hi wedi gweld Alex Salmond ers Gorffennaf 14, 2018, pan gafodd y ddau eu “cyfarfod olaf” yn ei chartref.
Siaradodd y ddau dros y ffon ychydig ddyddiau’n ddiweddarach ar Orffennaf 18, ac anfonodd Alex Salmond negeseuon drachefn ar Orffennaf 20, ond dywedodd Nicola Sturgeon nad oedd hi wedi ateb y rheiny.
“Dw i ddim wedi bod mewn cysylltiad â Mr Salmond ers hynny,” meddai.
Mae hi hefyd wedi cyfaddef bod yr achos llys yn erbyn Alex Salmond wedi arwain at chwalu eu cyfeillgarwch.