Mae gwas sifil uchaf yr Alban wedi dweud ei bod yn “barod iawn” i drafod p’un a ddywedwyd wrth weision sifil benywaidd i beidio â bod ar eu pen eu hunain yng nghwmni Alex Salmond, wrth iddi wynebu pwysau i ymddangos eto o flaen pwyllgor ymchwilio.

Ymddangosodd Leslie Evans, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth yr Alban, gerbron y Pwyllgor Ymchwilio i Ymdriniaeth Llywodraeth yr Alban â Chwynion am Aflonyddu yr wythnos ddiwethaf.

Sefydlwyd y Pwyllgor a’i ymchwiliad ar ôl i’r Llys Sesiwn ddyfarnu bod ymchwiliad i honiadau am Mr Salmond yn anghyfreithlon, a gorchymyn Llywodraeth yr Alban i dalu £512,250 iddo.

Wrth gael ei holi, gofynnwyd i Ms Evans a oedd hi’n ymwybodol o’r rhybudd honedig i weision sifil benywaidd i beidio â bod ar eu pen eu hunain gyda chyn-Brif Weinidog yr Alban.

Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau’r Pwyllgor, dywedodd Ms Evans bryd hynny na allai wneud sylw ar y mater.

Llythyr agored

Ond yn awr, mewn llythyr agored at gynullydd y pwyllgor, Linda Fabiani, Aelod SNP o’r Senedd, mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi dweud yr hoffai fanteisio ar y cyfle i egluro ei hateb i’r cwestiwn, a phenderfyniad Ms Fabiani, yn ei rôl ar y pwyllgor, i beidio â chaniatáu cwestiynau pellach ar y mater.

Dywedodd Ms Evans: “Rwy’n llwyr werthfawrogi bod gennych resymau, yn seiliedig ar gylch gwaith y pwyllgor a’r gwahanol gyfyngiadau cyfreithiol sydd ar waith, dros beidio caniatáu’r cwestiwn [am yr honiadau].

“Fodd bynnag, hoffwn ei gwneud yn glir – yn groes i rai adroddiadau yn y cyfryngau – fy mod yn barod iawn i ysgrifennu at y Pwyllgor i fynd i’r afael â hyn.”

Ymateb

Dywedodd Murdo Fraser, Aelod y Ceidwadwyr o Senedd yr Alban, mewn ymateb i lythyr yr Ysgrifennydd Parhaol: “Mae Leslie Evans yn sicr wedi newid ei thôn ers iddi wrthod ateb fy nghwestiwn yr wythnos diwethaf.

“Mae’n ymddangos bod pwysau gan Geidwadwyr yr Alban a’r cyhoedd yn yr Alban wedi argyhoeddi Llywodraeth yr SNP bod angen iddynt fod yn llawer mwy gonest ynglŷn â’r hyn yr oeddent yn ei wybod, a phryd.

“Ni ellir cuddio y tu ôl i lythyr […] ar fater mor ddifrifol…”

Daeth y polisi honedig i’r amlwg yn ystod achos Mr Salmond yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin yn gynharach eleni – fe’i cafwyd yn ddieuog o 13 honiad o gamymddwyn rhywiol.