Mae is-gwmni Facebook yn Ffrainc wedi cytuno i dalu 106 miliwn ewro (£94 miliwn) mewn ôl-drethi a chosbau yn dilyn ymdrechion parhaus gan y llywodraeth i gael y wefan enfawr i dalu mwy o drethi yn y mannau y maent yn gwneud eu harian.
Daeth y cytundeb ar ôl i awdurdodau treth Ffrainc gynnal archwiliad trylwyr o weithrediadau Facebook yn y wlad dros gyfnod o ddegawd, o 2009-2018.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni, na enwyd yn gyhoeddus yn unol â pholisi Facebook, fod y cwmni’n “cymryd ei rwymedigaethau treth o ddifrif” lle bynnag y mae’n gweithredu.
Ni wnaeth adran dreth Ffrainc sylw ar y fargen, gan ddyfynnu’r hawl i gyfrinachedd ym maes trethi.
Newid datganiadau treth
Cynyddodd refeniw Facebook yn Ffrainc y llynedd ar ôl i’r cwmni benderfynu cynnwys incwm hysbysebu gan gwmnïau o Ffrainc yn ei ddatganiadau cyfrifyddu yn y wlad.
Gwnaed hynny am y tro cyntaf, yn hytrach na’u datgan yn Iwerddon fel o’r blaen, lle mae gweithrediadau rhyngwladol Facebook wedi’u lleoli, gan fod yr ynys werdd yn cynnig threthi isel ar gyfer y sector.
O ganlyniad, bydd Facebook yn talu 8.4 miliwn ewro (£7.5 miliwn) mewn trethi elw yn Ffrainc eleni, sydd tua 50% yn fwy na’r llynedd, meddai’r llefarydd.
Brwydr dreth
Daeth y newid hwnnw yn sgil ymdrechion gan Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, a’i lywodraeth i bwyso ar bwerdai ar-lein fel Facebook, Google ac Amazon i dalu mwy o drethi’n lleol.
Mae ymgyrch Mr Macron wedi arwain at frwydr dreth yn ôl ac ymlaen gyda’r Unol Daleithiau.
Gosododd Ffrainc dreth gwasanaethau digidol o 3% ar gewri technoleg byd-eang, ac yna’r mis diwethaf tarodd gweinyddiaeth Trump yn ôl gan gyhoeddi cynlluniau i osod trethi ar 1.3 biliwn o ddoleri (£980 miliwn) o fewnforion Ffrengig, gan gynnwys bagiau llaw a cholur.