Mae nawfed person wedi cael ei gyhuddo o droseddau terfysgaeth fel rhan o ymgyrch gan yr heddlu yn erbyn y ‘New IRA’.

Mae wyth o bobl eisoes wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Belfast yn dilyn arestio 10 fel rhan o Ymgyrch Arbacia, tra bo un arall wedi ei gadw yn y ddalfa nos Lun.

Disgrifiodd Barbara Gray, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Iwerddon, yr ymgyrch fel un “sylweddol a gynlluniwyd yn ofalus”.

“Yr wythnos diwethaf, arestiwyd 10 o bobl, wyth dyn a dwy fenyw gan Heddlu Gogledd Iwerddon, o dan y ddeddf terfysgaeth fel rhan o ymgyrch sylweddol a gynlluniwyd yn ofalus o’r enw Arbacia,” meddai.

“Mae hwn yn ymchwiliad parhaus a chydgysylltiedig i weithgareddau’r ‘New IRA’ ac mae’n cynnwys partneriaid fel MI5, Garda Siochana, Heddlu’r Alban a’r Heddlu Metropolitan.

“Mae’r wyth o bobl wedi cael eu cyhuddo o 34 o droseddau terfysgol. Mae pob un wedi’i gadw yn y ddalfa.

“Gallaf gadarnhau nawr fod nawfed person wedi cael ei gyhuddo o bedair trosedd derfysgol. Yn gyffredinol, mae’r troseddau hyn yn cynnwys cyfarwyddo terfysgaeth, gweithredoedd terfysgaeth paratoadol, aelodaeth o sefydliad a waherddir, cynllwyn o feddu ar ffrwydron gyda’r bwriad o beryglu bywyd a chynllwynio i feddu ar ffrwydron gyda’r bwriad o beryglu bywyd. Mae’r troseddau hyn yn siarad drostynt eu hunain.”

Lyra McKee

Murlun o Lyra McKee gan yr artist, Emma Blake

Credir mai’r ‘New IRA’ sy’n gyfrifol am farwolaeth y newyddiadurwr Lyra McKee tra’r oedd hi’n arsylwi terfysg yn nhref Derry ym mis Ebrill 2019.

Credir mai’r ‘New IRA’ yw’r mwyaf o’r grwpiau gweriniaethol yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd, ac mae wedi cael y bai am nifer o ymosodiadau ar yr heddlu, gan gynnwys ymosodiad bom yn Wattlebridge, Co Fermanagh ym mis Awst 2019 a phum bom llythyr a ganfuwyd mewn lleoliadau ledled Prydain ac Iwerddon ym mis Mawrth 2019.