Dengys profion a gynhaliwyd ar yr arweinydd gwrthbleidiol o Rwsia, Alexei Navalny, sydd bellach mewn ysbyty yn yr Almaen, ei fod wedi’i wenwyno.

Fodd bynnag nid yw meddygon yn credu bod ei fywyd mewn perygl fel y mae hi ar hyn o bryd.

Dywedodd Ysbyty Charite fod y tîm o feddygon sydd wedi bod yn archwilio Mr Navalny ers iddo gael ei hedfan o Siberia i’r Almaen, wedi i’r Canghellor Angela Merkel gynnig cymorth y wlad yn bersonol, wedi canfod presenoldeb “atalyddion cholinesterase” yn ei system.

Ystod eang o sylweddau yw’r rhain sydd i’w cael mewn sawl cyffur, ond hefyd mewn plaladdwyr a chyfryngau nerfol. Fodd bynnag, dywedodd meddygon yn Ysbyty Charite nad yw’r sylwedd penodol yr amlygwyd Mr Navalny iddo yn hysbys eto.

“Mae’r claf mewn uned gofal dwys ac mae’n dal mewn coma wedi’i ysgogi. Mae ei iechyd yn ddifrifol ond nid oes perygl mawr i’w fywyd ar hyn o bryd,” meddai’r ysbyty mewn datganiad.

Heddlu’n bresennol

Mae swyddogion Heddlu Berlin ac asiantau ffederal ar ddyletswydd yn yr ysbyty lle mae’r gŵr 44 oed yn cael triniaeth.

“Roedd yn amlwg, ar ôl iddo gyrraedd, fod yn rhaid cymryd rhagofalon amddiffynnol,” dywedodd llefarydd Mrs Merkel, Steffen Seibert, wrth ohebwyr. “Wedi’r cyfan, mae’n ethaf tebygol mai claf yw hwn a gafodd ei wenwyno.”

Yn gynharach yn y dydd, dywedodd Dirk Wiese, cydlynydd llywodraeth yr Almaen ar gyfer materion Dwyrain Ewrop, wrth y darlledwr cyhoeddus ZDF ei fod yn “ddifrifol, ond yn sefydlog ar hyn o bryd”.

“Mae bellach yn cael y driniaeth orau bosibl,” meddai Mr Wiese.

Cred cefnogwyr Mr Navalny fod te yr oedd yn ei yfed yn cynnwys gwenwyn – a bod y Kremlin y tu ôl i’w salwch ac y tu ôl i’r oedi wrth ei drosglwyddo i’r Almaen.

Fodd bynnag, mae meddygon Rwsia wedi dweud nad yw profion wedi dangos unrhyw olion o wenwyn yn ei system. Nid yw’r Kremlin wedi gwneud sylwadau ar yr honiad newydd eto.

Cyflwynodd tîm Mr Navalny gais yn Rwsia yr wythnos diwethaf i lansio prawf troseddol, ond nid yw Pwyllgor Ymchwilio Rwsia wedi agor achos hyd yma , meddai llefarydd Mr Navalny, Kira Yarmysh.