Mae cwmni Mike Ashley, Frasers Group, wedi dweud y bydd yn arbed “nifer o swyddi” ar ôl prynu rhannau o DW Sports.
Dywedodd y cwmni y tu ôl i Sports Direct a House of Fraser y byddai’n talu £37 miliwn am rannau o asedau busnes ffitrwydd DW Sports. Mae’n cynnwys peth o stoc y cwmni, ond nid enw’r brand ‘DW’, nac eiddo deallusol y cwmni.
Roedd tua 1,700 o swyddi mewn perygl pan aeth DW Sports i ddwylo’r gweinyddwyr ddechrau’r mis.
Dywedodd cwmni Mr Ashley y byddai’n achub rhai o’r rhain – heb nodi faint yn union.
“Mae Grŵp Frasers yn edrych ymlaen at wella’r asedau campfa a ffitrwydd a gaffaelwyd […] o dan frand eiconig presennol y grŵp Everlast, ac mae hefyd yn falch o fod wedi arbed nifer o swyddi.”
Gallai’r pris godi i £43.9 miliwn os bydd Frasers hefyd yn caffael lesddaliadau, meddai’r cwmni.
Dywedodd Susannah Streeter, uwch-ddadansoddwr buddsoddi a marchnadoedd gyda Hargreaves Lansdown: “Mae gan Grŵp Frasers a Mike Ashley hanes o brynu cwmnïau sydd mewn trafferthion ac o ystyried bod DW Sports yn gyn-gystadleuwr i Sports Direct, mae’n gaffaeliad sydd efallai hyd yn oed yn fwy deniadol.
“Yn y gorffennol, mae chwaeth siopa eithaf eclectig Mr Ashley o ran caffael wedi peri syndod, ond mae Frasers Group wedi dweud y bydd busnes y gampfa yn cael ei hyrwyddo o dan y brand Everlast, sydd ganddo eisoes.”