Yn ystod cyfnod anodd i nifer o fusnesau, mae cwmni o’r Barri sy’n arbenigo mewn cynhyrchu diheintyddion eco cyfeillgar wedi gweld cynnydd yn y galw am ei gynnyrch.

Ers y cyfnod clo mae cynnyrch glanhau Nu-Eco, sy’n cael eu creu gan ddefnyddio defnyddiau cwbl naturiol, wedi profi yn boblogaidd iawn ac yn cael eu gwerthu i ystod eang o gwsmeriaid, gan gynnwys siopau, bwytai, cartrefi gofal a chwmnïau teledu yng Nghymru a thu hwnt.

Ond roedd Andrew East, Rheolwr Cyfarwyddwr cwmni Skyhawk Global, perchnogion Nu-Eco, yn cyfaddef bod pandemig y coronafeirws wedi bod yn gyfnod heriol i bob busnes.

“Mae wedi bod yn galed ar adegau, ond ar yr un pryd dwi yn ymwybodol bod ein cynnyrch yn gweddu i’r cyfyngiadau covid yn dda”, meddai wrth Golwg360.

“Ry’n ni fel cwmni wedi dangos ein bod ni’n medru addasu a dilyn rheolau covid, ond wrth gwrs mae yna dal sialensiau yn ein hwynebu.

“Yn gynharach eleni rhedom allan o stoc wrth geisio ateb y galw am ddiheintyddion dwylo – canlyniad i gyfyngiadau trwyddedu allforio oedd hynny, ond rydym wedi dysgu o’r profiad.

“Rydym wrthi ar hyn o bryd yn creu platfform gwerthu ar-lein newydd er mwyn cyrraedd busnesau a chwsmeriaid newydd, ac rydym ni wedi dechrau gwerthu pecynnau covid.

“Hoffwn bwysleisio – dydyn ni ddim yn hyrwyddo ein cynnyrch fel rhywbeth sydd yn lladd Covid-19, yr hyn rydym ni yn ei werthu ydy cynnyrch naturiol sydd yn amddiffyn ein cwsmeriaid.”

‘Cymru wrth galon y busnes’

Eglurodd Rheolwr Cyfarwyddwr mai ei weledigaeth ers cychwyn y busnes yn 2015 oedd annog y defnydd o gynnyrch eco-gyfeillgar a bod y cysylltiad Cymreig yn rhan ganolog o hynny.

“Dwi wedi gwirioni gyda bob dim eco-gyfeillgar ers blynyddoedd, penderfynais felly i wneud rhywbeth i rannu’r pasiwn yma”, meddai.

“Er mai Sais ydw i’n byw yng Nghymru, a bod gennym ni fel cwmni gysylltiadau â De Affrica, dwi’n falch iawn bod ein pencadlys ni wedi ei leoli yma yng Nghymru – mae Cymru wrth galon y busnes.

“Dwi’n teimlo fod Cymru fel gwlad yn rhannu ein gweledigaeth am gynnyrch eco-gyfeillgar, ac rydym ni’n defnyddio cwmnïau Cymreig lle bynnag y gallwn.

“Mae Busnes Cymru a Chyngor Bro Morganwg hefyd wedi bod yn gefn mawr i ni fel busnes yn ystod y cyfnod yma ac rydym ni’n falch iawn o fod wedi cael ein rhoi ni ar restr o gynhyrchwyr ganddynt yn ddiweddar.

“Drwy ddysgu ac addasu ein ffyrdd o weithio dwi’n ffyddiog byddwn ni’n dod drwy’r cyfnod yma.”