Mae Dara Calleary, cyn-Weinidog Amaeth Iwerddon, bellach wedi camu o’i swydd yn ddirprwy arweinydd plaid Fianna Fáil hefyd.

Fe ddaw ar ôl iddo’i gael ei hun yng nghanol ffrae ynghylch cinio mewn clwb golff yn Galway yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae hefyd wedi gael ei rôl yn ysgrifennydd cenedlaethol y blaid gan ymddiheuro.

Mae’n cynrychioli sir Mayo yn y Dáil, neu Senedd Iwerddon.

Mae’r Gardai, neu Heddlu Iwerddon, yn cynnal ymchwiliad i geisio penderfynu a gafodd unrhyw reolau penodol yn ymwneud â’r cyfyngiadau eu torri, ddeuddydd ar ôl i’r Llywodraeth gyhoeddi cynlluniau i gwtogi faint o bobol sy’n cael dod ynghyd.

Roedd nifer o wleidyddion eraill a barnwr yn yr Uchel Lys hefyd yn y cinio.