Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £1.1m yn cael ei ddarparu er mwyn atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd yn Rhondda Cynon Taf.
Gwelodd cymunedau’r ardal rai o’r llifogydd gwaethaf pan gafodd Cymru ei tharo gan stormydd Ciara a Dennis yn gynharach eleni.
Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at y £540,000 a gafodd ei roi i’r awdurdod lleol ar gyfer gwaith i atgyweirio ac i adfer asedau lliniaru llifogydd, ac mae’n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfanswm o £1.6m i’r cyngor erbyn hyn.
Bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn cadarnhau’r cyllid ychwanegol wrth iddi ymweld â chynllun atal llifogydd yn Aberdâr heddiw (dydd Llun, 24 Awst 24).
Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn golygu bod cyfanswm o ychydig llai na £4m wedi’i roi i awdurdodau lleol ledled Cymru yn 2019/20 a 2020/21 ar gyfer gwaith atgyweirio.
Galw ar Lywodraeth Prydain i wireddu ymrwymiad
“Rydyn ni wedi rhoi cyllid grant o 100% i bob un o’r ceisiadau a gyflwynwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer cynlluniau i liniaru perygl llifogydd, a byddwn ni’n parhau i gydweithio â’r awdurdod lleol wrth iddo ystyried sut i ymateb i berygl llifogydd ar draws dalgylch ehangach,” meddai Lesley Griffiths.
“Rydyn ni wedi rhoi cyllid llawn i’r holl awdurdodau lleol hynny ar draws Cymru a wnaeth gais am gyllid brys i atgyweirio amddiffynfeydd rhag llifogydd ac asedau lliniaru llifogydd, gan roi cyfanswm o ychydig yn llai na £4 miliwn.
“Cafodd Cymru ei tharo’n arbennig o galed gan y stormydd ym mis Chwefror, ac rydyn ni wedi cyflwyno achos clir i Lywodraeth y DU o blaid yr angen am gyllid ychwanegol i fynd i’r afael â’r difrod a achoswyd. Rydyn ni’n edrych ’mlaen at weld Llywodraeth y DU yn gwireddu’i hymrwymiad i ganiatáu’r cyllid newydd hwnnw i Gymru er mwyn helpu gyda’r gwaith hanfodol hwn.
“Wrth inni geisio ymateb i’r argyfwng hinsawdd, bydd yn rhai inni ddygymod â mwy o berygl llifogydd ledled Cymru.”
Ymateb y Ceidwadwyr
Mae Janet Finch-Saunders ASC – Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – wedi croesawu’r penderfyniad “yn gyffredinol”.
Fodd bynnag, tynnodd sylw at yr oedi o 10 mlynedd o ran diweddaru strategaeth rheoli llifogydd. Diweddarwyd y strategaeth fis diwethaf.
Dywedodd Mrs Finch-Saunders:
“Roedd oedi nodweddiadol Llafur yn golygu nad oedd y strategaeth wedi’i diweddaru ar waith erbyn i’r llifogydd difrifol daro Cymru yn gynharach eleni, nac wrth gwrs ar gyfer yr achosion diweddaraf o lifogydd.
“Mae’n destun pryder mawr, os yw wedi cymryd 10 mlynedd i Lywodraeth Llafur Cymru ysgrifennu ei strategaeth – dychmygwch faint o amser y bydd yn ei gymryd iddynt adeiladu’r amddiffynfeydd a grybwyllir ynddi, a sawl gwaith eto y bydd llefydd yn Rhondda Cynon Taf, ac mewn mannau eraill yng Nghymru, yn dioddef llifogydd.
“Dyna pam, yn Etholiad Cyffredinol Cymru y flwyddyn nesaf, mae angen i bleidleiswyr eu cicio allan a phleidleisio Ceidwadwyr Cymru i ddiogelu eu heiddo rhag effeithiau dinistriol llifogydd.”