Mae Heddlu’r De yn rhybuddio rhieni pobol ifanc i sicrhau bod eu plant yn cadw draw o rêf yn ardal Abertawe.
Maen nhw wedi dod i wybod am ddigwyddiad sydd wedi’i drefnu yn ardal Gorseinon heno (nos Lun, Awst 24).
Fe ddaw ddiwrnod yn unig ar ôl i’r heddlu orfod symud torf o bobol o ardal Penlan y ddinas, a’u hatgoffa nad oes hawl ganddyn nhw ddod ynghyd mewn grwpiau mawr yn ôl cyfyngiadau Llywodraeth Cymru.
Maen nhw’n rhybuddio y gallai pobol fod yn torri cyfyngiadau’r coronafeirws wrth ymgasglu.
Daeth tua 400 o bobol ifanc ynghyd ar gyfer digwyddiad tebyg yn y ddinas ym mis Gorffennaf.
Mae disgwyl i fwy o blismyn nag arfer gynnal patrôl heno, a hynny ar y cyd â’r Heddlu Trafnidiaeth wrth iddyn nhw geisio atal pobol rhag cyrraedd ar drenau.
Bu’n rhaid i’r heddlu ymdrin â sawl digwyddiad torfol yn Abertawe, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr dros yr haf.