Er i’r orymdaith flynyddol yng Nghaerdydd gael ei chanslo eleni oherwydd y coronafeirws, bydd Pride Cymru yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau ar-lein yr wythnos yma.

Bydd perfformwyr, grwpiau a busnesau yn cynnal digwyddiadau amrywiol fydd ar gael i’w gwylio’n rhad ac am ddim.

Nod yr wythnos, sy’n para tan Awst 30, yw uno’r gymuned LGBT+ a chodi ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau sy’n dal i fod.

Yr orymdaith yng Nghaerdydd llynedd oedd yr un fwyaf yn hanes Pride Cymru, gan ddenu dros 15,000 o bobol.

“Fel nifer o ddigwyddiadau Pride eraill ledled y Deyrnas Unedig, rydym wedi gorfod addasu ein cynlluniau oherwydd y coronafeirws a chynnal y digwyddiad ar-lein”, meddai Gian Molinu, cadeirydd Pride Cymru.

“Er na allwn ddod at ein gilydd yn y cnawd, roeddem am sicrhau y gallai cymuned LGBT+ ledled Cymru ddod ynghyd.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein digwyddiad Pride ar-lein yn dangos i bobol LGBT + ledled Cymru nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.

“Rydyn ni am ddangos ein bod ni, fel cymuned, yma i gefnogi ein gilydd a’n bod ni’n sefyll yn unedig.”

Ymhlith y digwyddiadau ar-lein fydd sgyrsiau gyda’r diddanwr Stifyn Parri a phanel o weinidogion y Llywodraeth a fydd yn trafod yr hyn sy’n cael ei wneud i sicrhau dyfodol tecach i bobol LGBT+ yng Nghymru.