Mae protestiadau mawr yn nhalaith Wisconsin yn yr Unol Daleithiau ar ôl i fideo ddangos yr heddlu’n saethu dyn croenddu yn ei gefn saith o weithiau wrth iddo bwyso i mewn i gar.

Cafodd unigolyn ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn y digwyddiad brynhawn ddoe (dydd Sul, Awst 24) ar ôl i’r heddlu ymateb i ffrae “ddomestig”, meddai’r heddlu mewn datganiad.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau rhagor o fanylion am y digwyddiad, ond maen nhw’n dweud bod yr unigolyn wedi cael triniaeth yn yr ysbyty ym Milwaukee.

Yn dilyn y digwyddiad, roedd tanau mawr ar y strydoedd a cherbydau’n cael eu dinistrio wrth i bobol droi ar yr heddlu.

Bu’n rhaid cyflwyno cyrffiw tan 7yb er mwyn ceisio tawelu’r dorf, a chafodd nwy dagrau ei ddefnyddio.

Condemnio’r digwyddiad

Mae Tony Evers, Llywodraethwr Wisconsin, wedi beirniadu ymateb yr heddlu.

Mae e wedi enwi’r dyn lleol, gan ddweud “nad Jacob Blake yw’r dyn croenddu cyntaf i gael ei saethu neu ei anafu neu ei ladd yn ddidrugaredd dan law unigolion sy’n gweithredu’r gyfraith yn ein talaith neu ein gwlad”.

Mae Adran Gyfiawnder Wisconsin yn cynnal ymchwiliad, ac mae’r plismyn dan sylw wedi derbyn cyfrifoldebau gweinyddol am y tro.

Ar ddiwedd gorymdaith i orsaf yr heddlu, roedd gwrthdaro rhwng plismyn a phrotestwyr wrth iddyn nhw weiddi sloganau gwrth-hiliaeth.