Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, am weld busnesau’n manteisio ar wasanaeth Busnes Cymru sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.
Bwriad Busnes Cymru yw rhoi cyngor a chanllawiau i fusnesau ar sut i ddelio gydag effaith pandemig y coronafeirws.
Mae ganddyn nhw gynghorwyr i helpu cwmnïau ar faterion sy’n cynnwys sut i leihau effeithiau’r coronafeirws ar fusnesau.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig mynediad at wybodaeth ymarferol, gweminarau arbenigol, cyfarfodydd cynghori rhithiol unigol a chymorth ffôn, yn ogystal â mynediad at fentoriaid a rhagor o gymorth arbenigol.
Gall Busnes Cymru hefyd ddarparu cyngor i fusnesau ar sut i baratoi at y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dros y tair blynedd nesaf, mae Busnes Cymru wedi helpu dros 15,000 o bobol i ddechrau neu i ddatblygu eu busnesau ac wedi helpu i lansio dros 3,600 o fusnesau newydd.
‘Cymorth o safon uchel iawn’
“Fel llywodraeth, rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod ein cymuned fusnes yn mynd drwy’r cyfnod eithriadol hwn ac yn paratoi ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau,” meddai Ken Skates.
“Mae Busnes Cymru wedi cynnig cymorth o safon uchel iawn i filoedd o bobol yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi parhau i wneud hynny drwy gydol y pandemig.
“Maen nhw’n barod i roi cyngor a chanllawiau ymarferol, perthnasol a gwerthfawr i’r rhai sydd eu hangen yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Pecyn cymorth Llywodraeth Cymru
Dywed Llywodraeth Cymru bod eu pecyn cymorth wedi cefnogi busnesau drwy gydol pandemig y coronafeirws.
Mae dros £760m o grantiau cymorth ar gyfer ardrethi busnes wedi’u rhoi i dros 64,000 o fusnesau, tra bod y Gronfa Cadernid Economaidd wedi cynnig cymorth i dros 12,000 o gwmnïau yng Nghymru, gan warchod dros 75,000 o swyddi.
“Rydyn ni am gefnogi ein hentrepreneuriaid i ddod yn ôl o’r pandemig hwn yn gryfach ac i ddefnyddio’r ysbryd entrepreneuraidd cryf sydd gennym yma yng Nghymru,” meddai Ken Skates.
“Rydyn ni yn gwybod bod busnesau yn fwy cadarn o gael y gefnogaeth iawn a dwi’n eich annog i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael.”
Cymorth “gwerthfawr iawn”
Un busnes sydd wedi elwa o gymorth Busnes Cymru ydi Beyond Breakout, profiad ystafell ddianc newydd yn y Drenewydd, sy’n cael ei redeg gan Lorna Morris a Jo Woodall.
Derbyniodd y ddau gymorth gan Busnes Cymru i ddatblygu eu syniad cychwynnol yn ogystal â chymorth gyda’u cynllun busnes, marchnata a rhagolygon ariannol.
“Bu’r cymorth a gawsom gan Busnes Cymru yn werthfawr iawn, ac mae wedi cynnwys help inni baratoi rhagolygon llif arian, datblygu cynllun busnes, cwblhau cytundeb partneriaeth a’n harwain at y Start-Up Loans Company, ble y cawsom fenthyciad o £10,000,” meddai Lorna Morris.
“Rydyn ni’n bwriadu agor dwy ystafell ddianc arall, gan ddod â’n cyfanswm i bedair.”