Mae rhaglen ddogfen newydd yn honni bod Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn “wystl” yn Iran.

Mae’n debyg ei bod hi ar fin cael ei rhyddhau o garchar ddwy flynedd a hanner yn ôl, cyn i gytundeb fethu.

Dywed ei gŵr Richard Ratcliffe fod y teulu wedi derbyn addewid y byddai ei wraig yn cael dychwelyd i’r Deyrnas Unedig ar Ragfyr 28, 2017.

Dydy hi ddim yn glir pam fod y cytundeb wedi methu.

Cafodd hyn oll ei ddatgelu mewn ymchwiliad gan BBC Panorama i ddinasyddion Prydeinig a gwledydd gorllewinol eraill sydd wedi cael eu carcharu yn Iran.

Bydd y rhaglen ddogfen yn cael ei darlledu am 7:30yh nos lun (Awst 24).

Dyled

Mae wedi ei honni ers tro bod Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn cael ei chadw yn Iran er mwyn gorfodi’r Deyrnas Unedig i setlo dyled gyda’r wlad.

Mae’r ddyled yn deillio’n ôl i’r 1970au pan dalodd Shah Iran £400m i’r Deyrnas Unedig am 1,500 o danciau.

Ond pan gawson nhw eu disodli yn 1979, gwrthododd Prydain ddarparu’r tanciau i’r wladwriaeth Islamaidd newydd.

Fodd bynnag, cadwodd Prydain yr arian, er i lysoedd Prydeinig dderbyn y dylai’r arian gael ei ad-dalu.

Ac yn ôl Panorama, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthod yr ad-daliad.

Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn dweud bod yr awdurdodau yn Iran wedi dweud wrthi y byddai’n cael ei rhyddhau pe bai’r arian yn cael ei ad-dalu.

Ond yn gyhoeddus, mae’r awdurdodau wedi gwadu unrhyw gysylltiad rhwng y ddyled a’i charcharu.

A dydy Swyddfa Dramor y Deyrnas Unedig “ddim yn cydnabod unrhyw gysylltiad” rhwng y ddyled a charcharu Nazanin Zaghari-Ratcliffe.

Pedair blynedd

Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi treulio pedair blynedd yn y carchar ac mae hi’n cael ei chadw yn nhŷ ei rhieni yn Tehran yn sgil pandemig y coronafeirws.

Dydy hi ddim yn glir a fydd hi’n cael ei rhyddhau’n barhaol neu ei dychwelyd i’r carchar.

Cafodd ei harestio ym maes awyr Tehran yn Ebrill 2016 wrth ddychwelyd i Lundain gyda’i merch.

Cafwyd hi’n euog o ysbïo a’i dedfrydu i bum mlynedd o garchar.