Mae’r cwest i farwolaeth merch 15 oed ym Malaysia flwyddyn yn ôl wedi dechrau heddiw (dydd Llun, Awst 24).
Cafwyd hyd i gorff Nora Anne Quorin, merch o dras Ffrengig a Gwyddelig oedd yn byw yn Lloegr, ar Awst 13 y llynedd ger gwarchodfa natur lle diflannodd hi naw diwrnod cyn hynny.
Ar y pryd, roedd yr heddlu’n dweud nad oedd awgrym iddi gael ei chipio na’i threisio, a’i bod hi wedi marw o ganlyniad i waedu mewnol, newyn a straen.
Ond roedd ei rhieni o’r farn iddi gael ei chipio gan fod ganddi anableddau corfforol a meddyliol ac na fyddai hi’n crwydro ar ei phen ei hun.
Mae disgwyl i’r cwest ddod i ben ar Fedi 4 ar ôl clywed gan 64 o dystion, ond fydd ei rhieni ddim yn gallu bod yno oherwydd cyfyngiadau teithio’r coronafeirws ac yn cyflwyno tystiolaeth drwy gyswllt fideo Zoom.
Dwyn achos
Mae ei rhieni’n dwyn achos yn erbyn perchennog eu cyrchfan gwyliau am esgeulustod.
Maen nhw’n dweud nad oedd digon o ddiogelwch ar y safle a bod ffenest y bwthyn ar agor yn rhannol a’r caead wedi’i dorri ar y bore pan ddiflannodd eu merch.
Roedd ganddi symudedd gwael ac roedd angen cymorth arni i gerdded, ac roedd ei hoedran deallusol yn cyfateb i blentyn pum neu chwe oed.