Maen nhw’n rhybuddio y gallai hynny osod rhanbarthau a gwledydd yn erbyn ei gilydd.
Yn ôl ymchwil gan y blaid, mae ardaloedd sydd â chanran uchel o weithwyr awyrennau, manwerthu a gweithgynhyrchu yn debygol o weld mwy o swyddi’n cael eu colli na llefydd eraill.
Er bod disgwyl i ragor o swyddi gael eu colli yn ystod y dirwasgiad economaidd, dywed y Blaid Lafur nad oes digon o gefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer y gweithwyr.
Mae Cymru ymhlith y llefydd sydd â’r ganran uchaf o weithwyr manwerthu (10%), ynghyd â gogled-orllewin a gogledd-ddwyrain Lloegr.
Mae 12% o weithwyr yng Nghymru yn y sector gweithgynhyrchu.
Ymateb Llafur
“Mae gweinidogion yn wfftio rhannau o’r Deyrnas Unedig wrth i’r wlad fynd i ddirwasgiad, gyda ffigurau’n awgrymu y bydd rhai llefydd yn cael eu taro’n anghymesur o ran yr argyfwng swyddi,” medai Matthew Pennycook, llefarydd busnes y Blaid Lafur.
“Mae Llafur yn galw ar y Llywodraeth i wneud tro pedol ar y dull blanced niweidiol o ddiddymu’r cynllun ffyrlo, nad yw’n ystyried amgylchiadau’r gwahanol sectorau na’r effaith ar y cymunedau sydd â hanes balch yn y diwydiannau hyn.
“Mae angen i’r Llywodraeth wneud y peth iawn ar ran y cymunedau a busnesau hyn, a’u tywys nhw drwy’r argyfwng drwy dargedu cefnogaeth – nid tynnu’r cwch oddi tanyn nhw tra bo’r storm yn dal i ruo.”