Mae disgwyl i’r Gweriniaethwyr enwebu’r Arlywydd Donald Trump i fod yn ymgeisydd arlywyddol unwaith eto yn yr etholiad yn ddiweddarach eleni.

Yn hytrach na’r rhwysg arferol, y disgwyl yw y bydd yn cael ei enwebu mewn cyfarfod yng Ngogledd Carolina i ddechrau wythnos o ymgyrchu ar gyfer ail dymor wrth y llyw.

Oherwydd y coronafeirws, bydd pobol yn dod ynghyd yn Charlotte, Gogledd Carolina i fwrw eu pleidlais  ar gyfer yr ymgeisyddiaeth cyn i Donald Trump ddechrau annerch y genedl mewn cyfweliadau teledu sydd wedi cael eu trefnu.

Wrth i’r Democratiaid ddewis Joe Biden, wnaethon nhw ddim dod ynghyd ond yn hytrach, fe wnaethon nhw roi eu sêl bendith ar ffurf fideo o bob cwr o’r wlad fel rhan o gynhadledd rithiol.

Mae lle i gredu y gallai’r cynulliad hwn o Weriniaethwyr fod yn allweddol i lwyddiant yr arlywydd, sy’n colli tir i’r Democratiaid mewn sawl talaith.

Maen nhw’n gofidio bod yr ymgyrch ar y naill ochr a’r llall wedi troi o fod yn un sy’n canolbwyntio ar eu hymgeiswyr eu hunain i fod yn un sy’n ceisio tanseilio’r gwrthwynebydd.

Mae Donald Trump eisoes wedi dweud ei fod e’n gobeithio cynnal ymgyrch bositif.

Ar ôl gadael Gogledd Carolina, mae disgwyl i’r Gweriniaethwyr droi eu sylw at Washington DC ac ymgyrchoedd fideo ym mhob rhan o’r Unol Daleithiau, gyda’i wraig Melania Trump a’i ddirprwy Mike Pence yn paratoi i gyhoeddi fideo yr un.

Mae disgwyl i Donald Trump dderbyn yr enwebiad yn ffurfiol ddydd Iau (Awst 27).