Mae Gwylwyr y Glannau yn apelio am wybodaeth ynghylch sgïwr dŵr sydd ar goll.

Cysylltodd y sgïwr dros y radio am 4yh ddydd Sul (Awst 23) o Fae Caerfyrddin, gan ddweud ei fod yn cael problemau gyda’i injan.

Bu’n rhaid i hofrennydd a thri bad achub o Ddinbych-y-pysgod, Porth Tywyn a’r Mwmbwls dreulio amser yn chwilio amdano.

Fodd bynnag, wnaethon nhw ddim llwyddo i ddod o hyd iddo.

Maen nhw bellach wedi gohirio’r chwilio.