Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi cyhoeddi argyfwng yn dilyn tanau mawr Califfornia, sy’n golygu y bydd modd rhoi cymorth ffederal i’r awdurdodau sy’n ceisio eu diffodd.
Roedd tri thân mawr arall yng ngogledd y dalaith ddoe (dydd Sul, Awst 23), wrth i’r awdurdodau fynd allan mewn gwyntoedd cryfion a stormydd.
Mae bron i 250,000 o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi ers i’r tanau ddechrau.
Ym mynyddoedd Santa Cruz, daeth yr awdurdodau o hyd i gorff dyn 70 oed ar ôl iddyn nhw fod yn chwilio amdano fe ar ôl iddo fe fynd ar goll.
Mae’r awdurdodau bellach yn dweud bod pobol yn anwybyddu’r gorchymyn i adael eu cartrefi, a bod eraill yn manteisio ar y sefyllfa i ddwyn eiddo, gan gynnwys eiddo diffoddwyr.
Mae’r heddlu’n ceisio cadw pobol heb awdurdod i ffwrdd o’r tanau, ac mae wyth o bobol wedi’u harestio hyd yn hyn.
Mae rhybuddion erbyn hyn am dywydd sych dros ben a allai arwain at ragor o danau yn y dalaith, a gwyntoedd o hyd at 65m.y.a.
Mae pump o bobol wedi marw yng ngogledd y dalaith erbyn hyn, ac 845 o gartrefi wedi’u dinistrio.
Yn ne’r dalaith, mae tanau wedi bod yn llosgi ers 11 o ddiwrnodau ac mae disgwyl i stormydd darfu ar waith diffoddwyr yno hefyd.
Mae mwy na 500 o danau wedi llosgi yng Nghaliffornia ers Awst 15, gan losgi 1.2m erw neu 1,875 milltir sgwâr o dir.
Tra bo’r awdurdodau’n canolbwyntio ar dri thân mwya’r dalaith, mae rhyw ddau ddwsin o danau’n cael y sylw mwyaf hefyd.
Mae’r tanau wedi dinistrio coed hynafol ac mae’r mwg yn golygu bod ansawdd yr aer wedi gwaethygu’n sylweddol mewn cyfnod byr.
Mae pobol wedi cael gorchymyn mewn rhannau helaeth o’r dalaith i aros dan do.
Bydd cyhoeddi’r argyfwng nawr yn golygu y gall pobol dderbyn cymorth, gan gynnwys cwnsela, cartrefi dros dro a gwasanaethau cymdeithasol eraill.