Fydd Alex Neil, cyn-Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, ddim yn sefyll yn etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf.

Fe yw’r gwleidydd diweddaraf i gyhoeddi’r fath fwriad, yn dilyn Roseanna Cunningham, Mike Russell, Gail Ross a Bruce Crawford.

Mae’n dweud y byddai ymrwymo i bum mlynedd arall yn golygu na fyddai’n gallu gwneud pethau eraill.

Mae’n cynrychioli’r SNP yn Airdrie a Shotts, ac wedi bod yn Holyrood ers y dechrau yn 1999, yn gyntaf fel aelod seneddol rhanbarthol cyn ennill sedd ei etholaeth yn 2011.

Mae’n dweud mai “braint a phleser” fu bod yn aelod seneddol, gan gyfaddef iddo ystyried sefyll eto, ond fod ganddo fe ddyletswydd i dreulio mwy o amser gyda’i deulu.