Mae adroddiadau yn Ne Corea yn awgrymu bod Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea, yn ddifrifol wael ac mewn coma yn yr ysbyty.

Roedd sïon yn gynharach eleni ei fod e wedi marw gan nad oedd pobol wedi ei weld ers cryn amser.

Ond daw’r adroddiadau diweddaraf ar ôl iddo drosglwyddo rhai o’i bwerau i’w chwaer.

Ddyddiau’n unig yn ôl, cyhoeddodd Gwasanaeth Cudd-wyboaeth Cenedlaethol y wlad nad oedd trosglwyddo’r pwerau’n golygu ei fod e’n rhoi’r gorau i arwain y wlad.

Ond bydd ei gyfrifoldebau’n cael eu lleihau dros gyfnod o amser.