Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau paentio llinellau melyn ar yr A5 yn Nyffryn Ogwen mewn ymgais i atal pobol rhag parcio yno.

Mae pobol wedi bod yn heidio yno ers i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.

Maen nhw’n dweud mai’r bwriad yw cadw defnyddwyr yr heol yn ddiogel, ac maen nhw’n atgoffa pobol i “barcio’n gyfrifol ac yn ddiogel” ac i fod yn “ystyriol o bobol eraill”.

Mae system newydd hefyd ar waith yn ardal Pen-y-pas yn Eryri, lle mae gofyn i ymwelwyr archebu lle ymlaen llaw.

Mae cannoedd o gerbydau eisoes wedi cael dirwyon am barcio’n anghyfreithlon, ond mae’r broblem yn parhau.

Mae Heddlu’r Gogledd hefyd yn gofyn i bobol barcio’n gyfrifol.