Mae Cyngor Dinas Lerpwl yn ystyried pa strydoedd fydd yn cael placiau i egluro hanes yr ardal â’r fasnach gaethwasiaeth.
Mae gan yr holl strydoedd dan ystyried ryw gysylltiad â’r fasnach, boed yn dwyn enwau masnachwyr neu lefydd.
Cytunodd y Cyngor fis Ionawr y bydden nhw’n gosod placiau ar gerfluniau, adeiladau, cofgolofnau ac enwau strydoedd er mwyn cynnig mwy o wybodaeth a chyd-destun i enwau’r strydoedd.
Roedd Lerpwl yn hanfodol bwysig i’r fasnach oherwydd ei phorthladd er mwyn gallu cludo pobol i mewn ac allan yn gyflym i bob rhan o’r byd.
Yn ôl Joe Anderson, Maer Lerpwl, nid newid enw’r strydoedd yw’r ateb i’r ymgyrch sydd wedi bod yn ddiweddar i dynnu sylw at hanes pobol groenddu, ac mae’n dweud mai “anghywir” fyddai ceisio dileu’r hanes.
Panel ymgynghori
Mae panel sydd wedi bod yn ymgynghori ar y cynllun strydoedd wedi argymell sefydlu Placiau Eric Lynch i Goffáu Caethwasiaeth.
Mae Eric Lynch yn ddisgynnydd i gaethweision Affricanaidd, ac fe dreuliodd ei oes yn tynnu sylw at hanes caethwasiaeth yn Lerpwl.
Mae’r Cyngor bellach yn ystyried ble i osod y placiau ar bob un o’r strydoedd dan sylw.
Fe wnaeth nifer o wleidyddion y ddinas elwa o gaethwasiaeth yn Lerpwl ar hyd y canrifoedd, ac mae Amgueddfa Gaethwasiaeth Ryngwladol Lerpwl yn darogan fod llongau wedi cludo tua 1.5m o gaethweision – tua hanner yr Affricaniaid a gafodd eu cludo i wledydd Prydain gan fasnachwyr.