Mae Tower Bridge yn Llundain yn dal ynghau i gerbydau heddiw (dydd Sul, Awst 23), ar ôl i ddyfais fecanyddol ei hagor wrth i gerbydau ei chroesi ddoe (dydd Sadwrn, Awst 22).
Dim ond cerddwyr a beicwyr sy’n cael defnyddio’r bont ar hyn o bryd.
Mae Heddlu Dinas Llundain yn annog modurwyr i deithio ar hyd ffyrdd eraill.
Roedd yr heolydd dan eu sang yn dilyn y digwyddiad a gafodd ei achosi wrth i long deithio ar afon Tafwys o dan y bont.
Bu’n rhaid i fodurwyr a cherddwyr o’r ddau gyfeiriad aros mwy nag awr i gael mynd ar y bont yn syth ar ôl y digwyddiad wrth i beirianwyr geisio ei thrwsio.
Mae’r bont yn cysylltu ardal ariannol y ddinas â Southwark.