Mae prif swyddogion iechyd gwledydd Prydain yn dweud nad oes “opsiynau heb risgiau” wrth i blant baratoi i ddychwelyd i’r ysgol yn dilyn ymlediad y coronafeirws.
Daw sylwadau’r pedwar wrth iddyn nhw gyhoeddi datganiad ar y cyd, er bod addysg a iechyd yn feysydd sydd wedi’u datganoli.
Fe wnaeth y pedwar, gan gynnwys Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton, bwysleisio pa mor bwysig yw hi fod plant yn mynd yn ôl i’r ysgol.
Maen nhw’n dweud bod marwolaethau ymhlith plant o ganlyniad i’r feirws “yn brin eithriadol” a bod gan y rhan fwyaf sydd wedi marw gyflyrau eraill cyn cael eu heintio.
Maen nhw’n dweud, er bod trosglwyddo’r feirws yn gallu digwydd yn yr ysgol, nad yw’n ffordd gyffredin i’r feirws ledu, a dydy athrawon ddim mewn mwy o berygl o farw yn sgil y feirws na neb arall o oedran gwaith.
Maen nhw’n dweud mai o un aelod o staff i’r llall y byddai’r feirws yn fwyaf tebygol o ledu, os o gwbl, ond y dylai ysgolion sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol a dilyn gweithdrefnau rheoli haint.
Cynyddu’r achosion
Dywedodd y pedwar nad yw ailagor ysgolion fel arfer yn arwain at gynnydd mewn achosion, ond y gallai’r gyfradd drosglwyddo – y gyfradd ‘R’ – godi’n uwch nag un.
Pe bai hynny’n digwydd, maen nhw’n dweud y byddai angen dilyn camau lleol yn y gymdeithas, gan gynnwys ailgyflwyno cyfyngiadau cymunedol.
‘Dim dewisiadau hawdd’
Yn ôl yr Athro Chris Whitty, Prif Swyddog Meddygol Lloegr, does “dim dewisiadau hawdd” wrth fynd i’r afael â’r coronafeirws.
Mae’n dweud y byddai unrhyw gamau lleol yn cael eu cymryd yn ofalus, gan ganolbwyntio ar y maes dan sylw – lletygarwch pe bai achosion yn y diwydiant hwnnw, er enghraifft.
Wrth ymateb, mae undeb NASUWT yn dweud bod sylwadau’r Athro Chris Whitty yn dangos “pwysigrwydd hanfodol” dilyn gweithdrefnau diogel mewn ysgolion.
“Mae’r datganiad heddiw yn ategu neges y prif weinidog fod yna ddyletswydd foesol i ailagor ysgolion a bod rhaid i ysgolion ailagor yn ddiogel,” meddai.