Mae’r awdurdodau yn Iran wedi cael peth data o awyren o’r Wcráin a gafodd ei saethu i lawr gan ladd 176 o bobol ym mis Ionawr, yn ôl llefarydd yn y wlad.

Mae adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi ar y we yn cyfeirio at sylwadau’r llefarydd fel darn o dystiolaeth fydd yn rhan o’r adroddiad terfynol ar y digwyddiad.

Fe fu’r awdurdodau’n gwadu unrhyw ran yn y digwyddiad ger y brifddinas Tehran ar Ionawr 8, gan wneud tro pedol rai diwrnodau’n ddiweddarach pan gyflwynodd sawl gwlad dystiolaeth helaeth o ran Iran wrth saethu’r awyren i lawr.

Fe ddigwyddodd yr un noson ag ymosodiad taflegrau ar filwyr Americanaidd yn Irac, oedd yn ymateb i ladd y Cadfridog Qassem Soleimani yn Baghdad ar Ionawr 3.

Bocs du

Yn ôl yr awdurdodau, dim ond 19 eiliad o sgwrs sydd ar gael yn y bocs du ar yr awyren, a hynny’n dilyn y ffrwydrad cyntaf.

Roedd ail ffrwydrad 25 eiliad yn ddiweddarach.

Mae lle i gredu bod gwehilion o’r ffrwydrad cyntaf wedi taro’r awyren a dinistrio peiriannau recordio.

Fe fu awdurdodau’r Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Wcráin, Canada, Prydain a Sweden i gyd yn rhan o’r broses o gasglu data am eu bod nhw i gyd wedi colli dinasyddion yn y digwyddiad.

Fis diwethaf, daeth adroddiad yn Iran i’r casgliad fod diffyg cyfathrebu rhwng aelodau’r lluoedd arfog wedi arwain at saethu ar gam a heb awdurdod.