Mae mwy na thair miliwn o achosion o’r coronafeirws wedi’u cofnodi yn India ers dechrau’r ymlediad, ac mae’r feirws yn parhau i ledu o ddinasoedd i ardaloedd gwledig.

Mae’r wlad newydd gofnodi’r cynnydd dyddiol mwyaf yn nifer y marwolaethau ers dechrau’r ymlediad – 912, gyda 69,239 o achosion newydd.

Mae 3,044,940 o bobol wedi marw yn y wlad erbyn hyn.

Er i nifer y marwolaethau godi, mae arwyddion bod nifer yr achosion yn dechrau gostwng ond yn parhau’n beryglus yn Delhi Newydd a Mumbai.

Mae’r feirws ar led mewn rhannau gwledig o ogledd y wlad, lle mae cryn dlodi ac ychydig iawn o adnoddau gofal iechyd.

Yn y de, mae’r bobol yn fwy cyfoethog ond hefyd yn heneiddio.

Dim ond yr Unol Daleithiau a Brasil sydd â mwy o achosion, a dim ond tair gwlad arall sydd wedi gweld mwy o farwolaethau ers dechrau’r ymlediad.