Mae ffilm fer wedi cael ei chreu i nodi Diwrnod Rhyngwladol Cofio’r Fasnach Gaethweision a’i Diddymu heddiw (dydd Sul, Awst 23).
Ffilm sy’n cyfuno barddoniaeth a dawnsio yw ‘Triptych’ wrth i’r prosiect Plethu/Weave gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ac mae’n rhoi sylw i ran Cymru yn y fasnach gaethweision.
Prosiect y bardd Marvin Thompson, dyn croenddu, a’r dawnsiwr Ed Myhill, dyn â chroen gwyn, yw hwn ac mae’n cael ei gydlynu ar y cyd gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.
Bydd y ffilm yn cael ei chyhoeddi ar Fedi 3, ac mae’n defnyddio geiriau Marvin Thompson a symudiadau Ed Myhill i gyfleu anghyfiawnderau, cymunedau lleiafrifol a’r bobol a gafodd eu heffeithio, a hynny ar ffurf llythyr barddonol.
‘Triptych’ yw trydydd fideo’r gyfres Plethu/Weave, ac mae pump yn rhagor i ddod fel rhan o brosiect lle cafodd beirdd eu comisiynu i ysgrifennu cerddi yn ystod y cyfnod clo i’w defnyddio’n greadigol â chyfryngau eraill.
‘Hirddydd’ gan Mererid Hopwood a Tim Volleman oedd y cyntaf, a’r ail oedd ‘Ust’ gan Ifor Ap Glyn a Faye gafodd ei ddangos yn ystod digwyddiad AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol.
Caiff y Diwrnod Rhyngwladol ei gynnal gan UNESCO bob blwyddyn ar Awst 23, gan gynnig y cyfle i ystyried canlyniadau caethwasiaeth ym mhob rhan o’r byd.
Ymateb
“Mae Ed Myhill a minnau wedi creu ffilm wedi’i hysbrydoli gan fy ngherdd ‘Triptych’,” meddai Marvin Thompson.
“Mae’r gerdd hon yn ymateb i blac yn Aberhonddu a goffâi masnachwr caethweision.
“Cymerodd Ed Myhill adran gyntaf ‘Triptych’, neges agored i Gyngor Tref Aberhonddu, a’i hailgymysgu dros drac sain a gyfansoddodd.
“Mae’r ffilm yn ymgorffori lluniau o gaeau ŷd, y môr a symudiad ein cyrff i ymhelaethu ar themâu o gaethiwo a distrywio ecolegol.”
‘Deall materion anodd a phwysig yn well’
Yn ôl Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru, gall llenyddiaeth a’r celfyddydau ein helpu i “ddeall materion anodd a phwysig yn well”.
“Drwy farddoniaeth a dawns, mae Marvin Thompson ac Ed Myhill yn archwilio’n agored a gonest rhan Cymru yn y fasnach gaethwasiaeth Traws-Atlantig, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gefnogi’r gwaith hwn mewn partneriaeth â CDCCymru.
“Mae Diwrnod Rhyngwladol Cofio’r Fasnach Gaethwasiaeth a’i Dileu yn achlysur lle dylai pawb ledled y byd – yn cynnwys dinasyddion Cymru – oedi i fyfyrio ar erchyllterau’r gorffennol.”