Bydd aelodau’r Dáil, neu Senedd Iwerddon, yn dychwelyd yn gynnar o’u gwyliau i drafod helynt cinio golff sydd wedi arwain at ymddiswyddiadau nifer o wleidyddion.

Fe wnaeth Dara Calleary, y Gweinidog Amaeth, a Jerry Buttimer, Dirprwy Gadeirydd y Senedd, gamu o’r neilltu.

Ac mae un arall dan bwysau i fynd, ar ôl i’r Taoiseach Michéal Martin a’i ddirprwy, y Tanaiste Leo Varadkar roi pwysau ar Phil Hogan, comisiynydd masnach yr Undeb Ewropeaidd, i ystyried ei ddyfodol.

Ymhlith y rhai eraill oedd yno roedd y barnwr Uchel Lys, Seamus Woulfe.

Yn ôl Ffederasiwn Gwestai Iwerddon, nid nhw oedd yn gyfrifol am drefnu na rhoi caniatâd ar gyfer y digwyddiad yr wythnos ddiwethaf.

Roedd 80 o bobol yn y cinio, a gafodd ei gynnal mewn dwy ystafell.

Doedd dim disgwyl i’r Dáil ddod ynghyd eto tan Fedi 15, ond mae’r Gardai, neu Heddlu Iwerddon, yn cynnal ymchwiliad i benderfynu a gafodd rheolau’r coronafeirws eu torri.

Cyfyngiadau newydd

Mae Llywodraeth Iwerddon bellach wedi cyflwyno mesurau newydd.

Ddylai mwy na chwe pherson ddim eistedd wrth fwrdd mewn bwyty, a’r rheiny’n dod o ddim mwy na thair aelwyd.

50 yw’r nifer fwyaf o bobol sy’n cael cyfarfod dan do.