Bydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn ailagor i’r cyhoedd ddydd Iau (Awst 27).
Daw hyn ar ôl i Amgueddfa Cymru ailagor Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, ddechrau’r mis.
Er mwyn sicrhau bod profiad ymwelwyr mor ddiogel â phosibl, mae Amgueddfa Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau newydd gan gynnwys rheoli nifer yr ymwelwyr, arwyddion ymbellhau cymdeithasol, a systemau unffordd.
Bydd hefyd rhaid i bob ymwelydd archebu lle ymlaen llaw.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein hymwelwyr yn ôl i’r amgueddfeydd”, meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru.
“Er bod ein hadeiladau wedi bod ar gau, rydym wedi bod ar agor ar-lein dros y pedwar mis diwethaf, yn darparu adnoddau addysg i ysgolion, celf i ysbytai maes, a chysur ac ysbrydoliaeth i bawb.
“Mae amgueddfeydd yn chwarae rôl allweddol yn iechyd a lles pobl a chymunedau a gobeithiaf y bydd pobol yn dod nôl i ymweld â ni a’n cefnogi ni.
“Diogelwch pawb yw ein prif flaenoriaeth, a byddwn yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac yn parhau i fonitro’r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol fod project Casglu Covid Amgueddfa Cymru, a oedd yn annof pobol yng Nghymru i rannu eu profiadau o fyw yng Nghymru yn ystod y pandemig wedi profi’n boblogaidd iawn a’i fod yn “gofnod pwysig i genedlaethau’r dyfodol.”
Pryd bydd yr amgueddfeydd eraill yn ailagor?
Mae 7 amgueddfa yn nheulu Amgueddfa Cymru. Mae rhai eisoes wedi ailagor, ac eraill ar fin ailagor:
- Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru – wedi ailagor ers Awst 4
- Amgueddfa Lechi Cymru – wedi ailagor ers Awst 23
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – yn ailagor Awst 28
- Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru – yn ailagor Medi 1
- Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru – yn ailagor Medi 2
- Amgueddfa Wlân Cymru – yn ailagor Medi 3