Mae cynlluniau ar droed i droi hen ysbyty Bron y Garth, Penrhyndeudraeth, i mewn i westy.
Mae’r hen ysbyty wedi ei leoli ger cefnffordd yr A487.
Mae’n debyg bod cais cynllunio yn barod i gael ei drafod i ddatblygu’r safle ar ôl iddo fod yn wag am flynyddoedd ar ôl dod o ddwylo’r Awdurdod Iechyd.
Byddai’r gwesty yn cynnwys caffi, bwyty, bar, sba hamddenol ac unedau manwerthu.
Ar ben hynny, byddai modd gosod dwy garafan sefydlog yno dros dro.
Hanes
Cafodd yr adeilad ei adeiladu fel wyrcws (workhouse) yn wreiddiol yn 1838 cyn cael ei droi’n ysbyty.
Oherwydd ei hanes, mae ganddo statws adeilad rhestredig Gradd II.
Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers 2009.