Mae cyfnod “gwlyb a gwyntog” ar y ffordd i Gymru wrth i Storm Francis gyrraedd y Deyrnas Unedig yn oriau mân bore Mawrth.

Mae rhybudd gwynt newydd mewn grym i Gymru gyfan tan ddydd Mercher, a dau rybudd glaw trwm yn y Gogledd.

Mae’r rhagolygon yn nodi gwyntoedd o hyd at 70mya a glaw trwm – hyd at 90mm mewn mannau – yn ystod cyfnod o 36 awr.

Mae’n dilyn cyfnod tebyg o dywydd tua diwedd yr wythnos diwethaf, sef Storm Ellen, pan fu farw merch ifanc 15 oed, Nicola Williams, yn Afon Rhymni yn Llanrhymni, Caerdydd.

Dywedodd y Prif Meteorolegydd Andy Page: “Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu cyfnod gwlyb a gwyntog arall gyda Storm Francis yn cyrraedd ddydd Mawrth.

“Bydd gwyntoedd cryfion a glaw trwm, yn enwedig yng ngorllewin Prydain.”

Ychwanegodd Nicola Maxey, swyddog y wasg ar gyfer y Swyddfa Dywydd: “Ers 2015 pan ddechreuon ni enwi stormydd, dydyn ni erioed wedi gorfod enwi storm ym mis Awst – a nawr, rydyn ni wedi cael dau mewn ychydig ddyddiau.”