Mae dyn oedd wedi chwistrellu rhywun â chwistrell bupur ar stryd yn Sir Benfro wedi cael ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar.

Fe wnaeth Gareth Brian Roberts, 28 oed, chwistrellu’r hylif i wyneb y dyn arall ar stryd yn Aberdaugleddau fis Tachwedd diwethaf.

Yr wythnos hon, cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe am fod ag arf yn ei feddiant.

“Roedd yn arbennig o annifyr gweld bod ymddygiad treisgar o’r fath a defnydd o sylwedd gwenwynig wedi digwydd mewn ardal fanwerthu lle’r oedd teuluoedd allan ac yn mwynhau eu diwrnod,” meddai llefarydd yr heddlu.

“Gweithredodd swyddogion yn gyflym i arestio a chanfod unrhyw dystiolaeth.

“Ynghyd â lluniau camerâu cylch cyfyng, aeth cryn dipyn o waith i asesu fforensig i mewn i’r achos hwn a galluogodd y fideo o gamerâu wisgodd yr heddlu ni i gwblhau’r erlyniad yn llwyddiannus.

“Er ei fod yn ddigwyddiad ysgytwol ei natur, mae’r math hwn o ddigwyddiad yn brin iawn yn Aberdaugleddau a hoffwn dawelu meddwl y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac yn ymweld â hi.”