Wrth edrych ymlaen at wythnos caru cig oen yr wythnos nesaf (Medi 1-7) mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod allforion cig oen y Deyrnas Unedig wedi cynyddu i lefelau tebyg i 2019.

Daw hyn yn dilyn gostyngiad yn yr allforion yn gynharach eleni o ganlyniad i’r coronafeirws.

Mae hyd at 40% o gig oen Cymru yn cael ei allforio yn flynyddol.

“Mae’r sector gwasanaeth bwyd yn gwsmer pwysig i Gig Oen Cymru mewn llawer o wledydd,” meddai Deanna Jones, Swyddog Gweithredol Datblygu Allforio Hybu Cig Cymru.

“Fe wnaethon ni ymateb [i’r pandemig] trwy ganolbwyntio mwy ar hysbysebu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a’r sector manwerthu, er enghraifft drwy gynhyrchu fideos ryseitiau yn Ffrangeg a phartneriaeth marchnata gydag archfarchnadoedd yn yr Eidal.”

Fis Mehefin, gwelwyd ffigurau allforio uchel o gig oen i’r Eidal, Ffrainc, y Swistir, Canada, Hong Kong a’r Dwyrain Canol, yn ôl Hybu Cig Cymru.

“Mae’r ystadegau masnach ar gyfer yr Eidal yn arbennig o foddhaol,” meddai.

“Nid yn unig y gwelsom ffigurau cryf ar gyfer mis Mehefin ond erbyn hyn, mae mwy o gig oen wedi cael ei allforio yno yn ystod chwe mis cyntaf 2020 na’r un cyfnod yn 2019.”

Ffigurau

  • 7,150 tunnell oedd allforion cig oen y Deyrnas Unedig ym mis Mehefin – 2.9% yn uwch na’r un mis y llynedd.
  • 38,570 tunnell oedd cyfanswm allforion cig oen y Deyrnas Unedig yn ystod hanner cynta’r flwyddyn, 13.3% yn llai o gymharu â’r llynedd.
Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru

‘Angen ei warchod’

“Mae Cig Oen Cymru yn rhywbeth teuluol sydd angen cael ei warchod,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae’n rhaid i ni amddiffyn ein ffermydd teuluol os ydym am barhau i fwynhau’r bwyd cynaliadwy, maethlon gwych yma.”

Yn ogystal ag effaith y coronafeirws pwysleisiodd fod trafodaethau masnach a Brexit yn her sydd yn parhau i wynebu’r sector.

“Mae ein ffermwyr yn gwneud llawer mwy na chynhyrchu bwyd cynaliadwy o’r safon gorau i ni – maent yn gofalu am ein hamgylchedd, yn creu gwerth yn yr economi wledig, yn cadw ein treftadaeth a’n diwylliant yn fyw a chymaint mwy,” meddai wedyn.

“Mae hyn i gyd dan fygythiad a rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau y gall ein ffermydd teuluol barhau i gynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon i ni i gyd ei fwynhau.

“Trwy fwyta Cig Oen Cymru, rydych chi’n helpu i gynnal swyddi, cadw’r economi i fynd, diogelu ein treftadaeth, ein diwylliant a’n hiaith.”

Ychwanegodd y bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i hyrwyddo ac amddiffyn ffermydd teuluol Cymru, yn genedlaethol ac yn unigol, i sicrhau bod ffermydd teuluol llewyrchus a chynaliadwy yng Nghymru.