Bydd myfyrwyr BTEC yn dechrau derbyn eu canlyniadau heddiw (dydd Mawrth, Awst 25), ar ôl i fwrdd arholi Pearson oedi eu cyhoeddi.

Cafodd y canlyniadau eu hoedi er mwyn rhoi mwy o amser i’r bwrdd allu ailgyfrifo’r graddau yn dilyn canlyniadau Safon Uwch a TGAU oedd yn seiliedig ar amcangyfrifon athrawon.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd bwrdd arholi Pearson fod angen ailraddio er mwyn “mynd i’r afael ag annhegwch ac ystyried canlyniadau Safon Uwch a TGAU er mwyn sicrhau nad yw myfyrwyr BTEC o dan anfantais.”

Roedd oddeutu 200,000 o fyfyrwyr Lefel 1 a Lefel 2 yn disgwyl derbyn eu canlyniadau ddydd Iau diwethaf (Awst 20), tra bod 250,000 o raddau Lefel 3 wedi cael eu dosbarthu ond yn rhan o’r ailasesiad.