Mae Plaid Cymru eisiau i’r un drefn o asesu myfyrwyr gael ei defnyddio y flwyddyn nesaf, gan ddweud bod angen “diwygiadau difrifol”.
Mae Siân Gwenllian, llefarydd addysg y blaid yn y Senedd, yn rhybuddio y byddai cadw at y drefn draddodiadol o arholi yn ymestyn y bwlch rhwng y ffordd y caiff myfyrwyr eu dysgu ac yna eu hasesu.
Mae hi hefyd yn galw am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd graddau’r flwyddyn nesaf yn seiliedig unwaith eto ar asesiadau athrawon, gan ddweud bod hyn yn bwysig ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch sy’n penderfynu peidio â dibynnu ar eu canlyniadau Uwch Gyfrannol ar gyfer eu graddau terfynol.
Heb ddefnyddio asesiadau athrawon, mae hi’n rhybuddio, yn sgil yr helynt eleni, y bydd myfyrwyr unwaith eto’n ddibynnol ar ganlyniadau arholiadau.
Ymhellach, mae pryderon y gallai’r cwricwlwm newydd ymestyn y bwlch ymhellach pe na bai’r dulliau asesu’n cael eu haddasu.
Heb newid y drefn, mae Siân Gwenllian yn poeni “y bydd yr un anghydraddoldebau a gafodd eu datgelu mor ofnadwy yn ystod y ffiasgo Safon Uwch yn parhau i fod uwch pennau ein dysgwyr”.
‘Amgylchiadau allanol’
“Os ydyn ni wedi dysgu un peth am ein system addysg yn ystod argyfwng y coronafeirws, hynny ydi nad yw’r ffordd mae ein dysgwyr yn cael eu hasesu’n cyfateb o reidrwydd i’w gallu mewn pwnc penodol ond yn hytrach, mae’n seiliedig ar ba mor dda maen nhw’n perfformio ar y diwrnod,” meddai Siân Gwenllian.
“Mae’n dibynnu ar bob math o amgylchiadau allanol neu weithiau lwc dda hyd yn oed.
“Yr hyn oedd yn greulon eleni, wrth gwrs, oedd fod rhai myfyrwyr wedi’u hisraddio’n wreiddiol ar gyfer perfformiad gwael mewn arholiad wnaethon nhw ddim hyd yn oed ei sefyll.
“Tra bo Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb yma, mae yna gwestiwn o hyd am ba mor dda mae arholiadau’n adlewyrchu gallu myfyrwyr, a pha mor deg ydi arholiadau fel modd o asesu mewn gwirionedd.
“I’r myfyrwyr hynny sy’n sefyll Safon Uwch ar ddiwedd y flwyddyn ysgol 2020-21, efallai na fydd ganddyn nhw ganlyniadau arholiadau Uwch Gyfrannol i gwympo’n ôl arnyn nhw, rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd rwan y bydd graddau unwaith eto’n seiliedig ar asesiadau athrawon, yn hytrach na bod rhaid i fyfyrwyr ddibynnu ar berfformiad mewn arholiadau yn dilyn taith addysg mor amharedig.
“Fy mhryder ydi y bydd y diffyg cyswllt rhwng dysgu ac asesu ond yn ehangu pan gaiff y cwricwlwm newydd ei basio.
“Dim ots pa mor flaengar ydi’r cwricwlwm newydd, tra bo Cymru yn y cyfamser yn dal ei gafael ar ddull asesu henffasiwn yn seiliedig ar arholiadau, bydd yr un anghydraddoldebau a gafodd eu datgelu mor ofnadwy yn ystod y ffiasgo Safon Uwch yn parhau i fod uwch pennau ein dysgwyr.”