Fydd caneuon poblogaidd Noson Ola’r Proms yn cael eu canu eleni yn sgil ffrae am natur y geiriau sy’n ymwneud â goruchafiaeth Brydeinig dros gaethweision.

Ymhlith y caneuon dan sylw mae Land Of Hope And Glory a Rule Britannia, a’r disgwyl yw y bydd fersiynau cerddorol yn unig yn cael eu perfformio.

Bydd y noson olaf yn cael ei darlledu gan y BBC ar Fedi 12.

Yn ôl y Gorfforaeth, fe fu ymosodiadau “anghyfiawn” ar y cyfryngau cymdeithasol ar yr arweinydd Dalia Stasevska o’r Ffindir, fydd yn arwain y noson olaf.

Fydd yna ddim cynulleidfa fyw eleni yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.

‘Sylwedd nid symbolau’

Yn ôl Downing Street, mae’r prif weinidog Boris Johnson yn credu bod angen mynd i’r afael â “sylwedd” nid “symbolau” y problemau.

Ond dywedodd llefarydd mai mater i’r BBC oedd penderfynu natur Noson Ola’r Proms.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden, dydy “gwledydd hyderus, blaengar ddim yn dileu eu hanes, ond yn ychwanegu ato”.

Dywedodd fod y ddwy gân dan sylw’n “uchafbwyntiau Noson Ola’r Proms”, a’i fod e wedi codi’r mater â’r BBC.