Bu protestiadau mawr yn nhalaith Wisconsin yn yr Unol Daleithiau am yr ail noson yn olynol, ar ôl i fideo ddangos yr heddlu’n saethu dyn croenddu yn ei gefn saith o weithiau wrth iddo bwyso i mewn i gar.
Cafodd Jacob Blake ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn y digwyddiad brynhawn dydd Sul (Awst 23).
Roedd cyrffiw yn dal i fod mewn grym, a chafodd nwy dagrau ei ddefnyddio yn erbyn y torfeydd.
Bu protestwyr yn gweiddi “Dim cyfiawnder, dim heddwch” wrth iddyn nhw wrthdaro â phlismyn.
Saethodd yr heddlu nwy dagrau am y tro cyntaf am tua hanner awr ar ôl i’r cyrffiw 8yh ddod i rym a phrotestwyr yn gwrthod gwasgaru.
Ond wnaeth hynny ddim rhwystro cannoedd o bobol rhag aros ar y strydoedd yn cynnau tannau a gweiddi ar yr heddlu.
Ynghynt, cyhoeddodd Tony Evers, Llywodraethwr Wisconsin, fod 125 aelod o’r Gwarchodlu Cenedlaethol yn dod i Kenosha er mwyn “gwarchod isadeiledd a sicrhau bod ein dynion tân ac eraill yn cael eu gwarchod”.
Daeth hyn ar ôl i brotestwyr gynnau tannau, malu ffenestri ac ymladd â’r heddlu mewn ymateb i saethu Jacob Blake, sydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Cafodd ei saethu sawl gwaith yn ei gefn wrth iddo bwyso ar ei gar, tra roedd ei blant yn eistedd yn y cerbyd.
Joe Biden yn galw am ymchwiliad
Mae Joe Biden, ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid, wedi galw am “ymchwiliad brys, llawn a thryloyw,” gan ddweud bod yn rhaid i’r swyddogion fod “yn atebol”.
“Bore heddiw, mae’r wlad yn deffro unwaith eto gyda galar a dicter bod Americanwr croenddu arall wedi dioddef oherwydd grym gormodol,” meddai.
“Mae’r achosion hyn o saethu yn trywanu enaid ein cenedl.”