Mae yna alwadau i roi’r hawl i geiswyr lloches gael gweithio tra bod eu ceisiadau’n cael eu prosesu.
Lwfans o £5 yn unig maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd, sy’n arwain at drafferthion ariannol wrth iddyn nhw orfod defnyddio’r arian i ffonio’u teuluoedd ac i gael bwyd bob dydd.
Daw’r galwadau ar ôl iddi ddod i’r amlwg y bu naid yn nifer y rhai sy’n aros mwy na chwe mis i gael clywed am eu ceisiadau.
Mae ymgyrchwyr hawliau dynol a Llywodraeth Cymru ymhlith y rhai sy’n galw am lacio’r rheolau er mwyn lleddfu’r pwysau yn ystod cyfnod mor anodd i lawer o geiswyr lloches.
Wrth ymateb, dywed y Swyddfa Gartref fod hwn yn “fater dyrys sydd dan ystyriaeth”.