Mae’r heddlu yn Instanbul wedi arestio aelod o Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – oedd yn cynllwynio “ymosodiad syfrdanol” yn y ddinas.
Dywed yr asiantaeth newyddion Anadolu fod y dyn wedi cael ei arestio mewn gwesty yn ardal Kucukcekmece.
Fe wnaeth yr heddlu ddod o hyd i reiffl awtomatig a bwledi yn ystod y cyrch, yn ôl yr adroddiad.
Roedd y dyn wedi croesi’r ffin i Dwrci o Syria cyn mynd am Instanbul.
Dyma’r ail waith y mis hwn i’r heddlu orfod atal ymosodiadau gan filwyr Daesh yn Nhwrci.
Bythefnos yn ôl, fe wnaeth yr heddlu yn nhalaith Bursa arestio brawychwr oedd yn bwriadu ymosod ar swyddfa’r heddlu.
Mae Twrci wedi dioddef sawl ymosodiad gan filwyr Daesh dros y bum mlynedd diwethaf, gan gynnwys ymosodiad mewn clwb nos yn Instanbul yn ystod dathliadau’r Flwyddyn Newydd yn oriau man Ionawr 1, 2017.
Bu farw 39 o bobol yn yr ymosodiad hwnnw.