Mae llifogydd wedi achosi difrod i eiddo mewn sawl ardal o Gymru.
Fe ddaw wrth i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am law a gwyntoedd cryfion rhwng 8 o’r gloch fore heddiw (dydd Mawrth, Awst 25) ac 8 o’r gloch bore fory (dydd Mercher, Awst 26).
Mae gofyn i bobol fod yn wyliadwrus wrth i nifer o ffyrdd gau a thrafnidiaeth gyhoeddus gael ei chanslo o ganlyniad i lifogydd.
Mae’n effeithio ar drenau rhwng Abertawe a Chaerdydd, ac yn enwedig yn ardal Castell-nedd ar hyn o bryd.
Mae disgwyl cryn oedi i deithwyr yn ystod y dydd, gyda chyfyngiadau cyflymdra o 30m.y.a. mewn rhai llefydd o ganlyniad i amodau gyrru gwael.